Mae Lleoliadau Amgen Cymru yn llogi adeiladau a lleoliadau ar gyfer Cymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru.
Rydym yma i godi arian ar gyfer lluoedd wrth gefn a chadetiaid yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy logi lleoliadau milwrol amlbwrpas am brisiau fforddiadwy ac ail-fuddsoddi’r incwm er lles milwyr wrth gefn, cadetiaid a’n hystâd.
Mae’n lleoliadau yn addas ar gyfer hyfforddiant, cynadleddau, digwyddiadau corfforaethol, ffilmio a gosod am dymor hir. Mae pob lleoliad yn unigryw. Maen nhw’n hyblyg ac addasadwy ac yn gallu cynnal y gweithgareddau mwyaf anarferol yn aml.
Mae RFCA dros Gymru yn ‘gorff hyd braich’ o’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD), a sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol ac mae’n gyfrifol am roi cyngor a chymorth i’r Cyngor Amddiffyn ac i’r Llynges Frenhinol, y Fyddin a’r Llu Awyr Brenhinol ar faterion sy’n ymwneud â lluoedd wrth gefn a chadetiaid yng Nghymru.
Wedi’u sefydlu ym 1908 (fel Cymdeithasau Tiriogaethol), nod yr RFCAs gwreiddiol oedd darparu cefnogaeth leol i’r Llu Tiriogaethol ym mhob sir yn y Deyrnas Unedig. Dros 100 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r enw wedi newid ac mae nifer y cymdeithasau wedi lleihau’n sylweddol ond mae ein cylch gwaith wedi ymestyn i gynnwys milwyr wrth gefn a chadetiaid y tri gwasanaeth yng Nghymru.
Mae pob RFCA yn gorff y llywodraeth ganolog gyda statws y Goron ac maen nhw wedi ffurfio Cyngor yr RFCAs (CRFCA) i ddarparu gwaith cydlynu canolog ar lefel genedlaethol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.