Wedi’i lleoli ar ymylon Parc Cenedlaethol Eryri a’i olygfeydd godidog, mae Canolfan Hyfforddi Cadetiaid Bethesda yn wersyll cychwyn hyblyg sy’n llawn o adnoddau a gall ddarparu ar gyfer tua 180 o anturwyr.
Mae ystafelloedd dosbarth i’w cael, a gellir eu defnyddio ar gyfer sesiynau briffio bob dydd cyn mynd ar deithiau dringo cofiadwy ym mynyddoedd Eryri.
Mae cyfleusterau bwyta cyffyrddus hefyd yn darparu’r lle perffaith i gymdeithasu a myfyrio ar eich anturiaethau.
Manylion cyswllt:
E-bost: wa-cg-ao2@RFCA.ORG.uk
Ffôn: 01248 600363 Est 1
Canolfan Hyfforddi Cadetiaid,
Drill Hall,
Ffordd yr Orsaf,
Bethesda,
LL57 3LY