Yng nghysgod y Mynyddoedd Duon, Cwrt y Gollen yw’n lleoliad mwyaf cynhwysfawr gyda digonedd o nodweddion sy’n cyfuno i gynnig profiad o aros mewn canolfan boblogaidd.
Mae lle i ddarparu llety a bwydo dros 200 o bobl, a chyfle i ddefnyddio cyfleusterau dan do o’r radd flaenaf hefyd: darlithfa, ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd TG.
Fel arall, mae ein cyfleusterau awyr agored yn cynnwys ein cwrs rhwystrau, llefydd gwersylla (gyda blociau ymolchi) a meysydd saethu, lle gall grwpiau gael hwyl a datblygu eu sgiliau gwaith tîm.
Ar ôl hynny i gyd, mae yma ystafelloedd bwyta cyffyrddus gyda digon o le i unigolion neu dimau ymlacio a dadflino mewn lle mwy cymdeithasol.
Canolfan Hyfforddi Cadetiaid Cwrt y Gollen,
Crucywel,
Powys,
NP8 1TP