Os ydych chi’n parhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n cytuno i gydymffurfio â’r telerau a’r amodau canlynol sydd, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn rheoli perthynas RFCA dros Gymru gyda chi mewn perthynas â’r wefan hon.

Mae’r termau “Cymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru” neu “RFCA dros Gymru”, “rydym”, “ni” neu “ein” yn cyfeirio at berchennog y wefan y mae ei swyddfa gofrestredig yn Cymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru, Barics Maendy, Caerdydd, CF14 3YE, 02920 375746. Mae’r term “chi” yn cyfeirio at ddefnyddiwr neu wylwyr ein gwefan.

Mae’r defnydd o’r wefan hon yn ddarostyngedig i’r telerau defnydd canlynol:

  • Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon er gwybodaeth gyffredinol i chi a’ch defnydd cyffredinol yn unig. Gall newid heb rybudd.
  • Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti yn darparu unrhyw warant o ran cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnrwydd neu addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau sydd ar neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gall gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys anghywirdebau neu gamgymeriadau ac rydym yn eithrio’n benodol atebolrwydd am unrhyw anghywirdeb neu wallau o’r fath i’r graddau mwyaf posibl a ganiateir yn ôl y gyfraith.
  • Mae eich defnydd o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich menter eich hun yn llwyr, ac ni fyddwn yn atebol amdani. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael drwy’r wefan hon yn bodloni’ch gofynion penodol.
  • Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n eiddo i ni neu sydd wedi’i drwyddedu i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys dyluniad, cynllun, diwyg, golwg a graffeg, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt. Gwaherddir atgynhyrchu heblaw yn unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n ffurfio rhan o’r telerau a’r amodau hyn.
  • Mae’r holl nodau masnach a atgynhyrchir yn y wefan hon, nad ydynt yn eiddo, neu wedi’u trwyddedu i’r gweithredwr, yn cael eu cydnabod ar y wefan.
  • Gall defnydd anawdurdodedig o’r wefan hon arwain at hawliad am iawndal a/neu fod yn drosedd.
  • Mae’r wefan hon hefyd yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er hwylustod i chi er mwyn darparu gwybodaeth bellach. Nid ydynt yn dynodi ein bod yn cymeradwyo’r wefan (gwefannau) hyn. Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y wefan (gwefannau) cysylltiedig.
  • Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ym mhob cam o’r gwaith cynhyrchu, awgrymwn eich bod yn rhedeg rhaglen gwrthfeirws ar bob deunydd a ddadlwythir o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd tra’n defnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.
  • Ni chaniateir i chi greu dolen i’r wefan hon o wefan neu ddogfen arall heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.
  • Mae’ch defnydd o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n deillio o ddefnydd o’r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, gan gynnwys heb gyfyngiad, colled neu ddifrod anuniongyrchol na chanlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o ganlyniad i golli data neu elw sy’n deillio o’r wefan hon neu mewn cysylltiad â defnydd ohoni.

Gwneir pob ymdrech i gadw’r wefan ar waith bob amser. Fodd bynnag, nid oes gan RFCA dros Gymru gyfrifoldeb amdani ac ni fydd yn atebol amdani os nad yw ar gael o dro i dro oherwydd materion technegol y tu hwnt i’n rheolaeth.

--!!