Mae gennym leoliadau ar gyfer pob angen corfforaethol. Maen nhw wedi’u lleoli ledled Cymru ac yn cynnwys gofodau hyblyg, sy’n addas at bob math o ddefnydd corfforaethol.

Mae llawer o’n lleoliadau yn ddiogel, ac i ffwrdd o lygad y cyhoedd – elfen hanfodol pan fo cyfrinachedd a diogelwch o’r pwys mwyaf.

Diwrnodau datblygu tîm:

Gyda’n cyfuniad unigryw o neuaddau mawr, ystafelloedd grŵp ac ardaloedd awyr agored heriol, mae’n lleoliadau’n darparu’r cydbwysedd perffaith o gyfleusterau ar gyfer diwrnodau datblygu tîm.

Mae ein tîm o weithwyr proffesiynol yn gallu cynnal diwrnodau ‘cwrdd i ffwrdd’ gan ganolbwyntio ar y canlynol yn arbennig:

  • Hyfforddiant arweinyddiaeth
  • Heriau a chystadlaethau tîm
  • Cynlluniau a rhaglenni ar thema filwrol

Beth bynnag fo’ch anghenion corfforaethol, mae rhai o’n canolfannau’n cynnig y pecyn cyfan a’r holl gyfleusterau ategol ar gyfer profiad llawn, fel:

  • Darlithfeydd
  • Ystafelloedd dosbarth
  • Llety
  • Cyfarpar ffitrwydd
  • Hyfforddiant antur
  • Lleoedd ymlacio

Mae pob pecyn yn un pwrpasol a gellir eu teilwra yn ôl eich anghenion corfforaethol.

Cyfarfodydd a chynadleddau:
  • Gall ein lleoliadau gynnig opsiynau ar gyfer grwpiau o bob maint, yn amrywio o neuaddau ar gyfer llawer o fynychwyr i ystafell gyfarfod fach i ychydig o fynychwyr.
  • Fel arfer, mae ein cyfleusterau’n cynnwys ystafell fawr ar gyfer y prif weithgaredd gyda nifer o ystafelloedd grŵp sy’n llai ac yn gyffyrddus ar gyfer gweithgareddau ategol.
  • Mae llawer o’n lleoliadau mewn llefydd diogel gyda ffensys diogelwch a mynediad cyfyngedig yn unig. Mae hyn yn darparu’r canlynol i gwsmeriaid:
    • Preifatrwydd llwyr o’r byd y tu allan
    • Lle parcio diogel
    • Cyfrinachedd llwyr rhag trydydd partïon â buddiant.
Arddangosfeydd

Mae’n neuaddau yn fawr a gwag, sy’n rhoi rhyddid i gwsmeriaid gynllunio’r lle yn ôl eu dymuniad. Mae hyn yn eu gwneud yn lleoliadau delfrydol i arddangosfeydd, sioeau masnach neu ddigwyddiadau rhwydweithio.

764--!!