Ymarferion

Mae ein neuaddau mawr yn darparu gofodau annibynnol gyda:

  • Lloriau pren trawiadol gyda lloriau gwrthlithro ymarferol
  • Nenfydau atmosfferig uchel wedi’u goleuo’n dda
  • Pensaernïaeth fewnol amrywiol, sy’n amrywio o arddulliau modern i ddechrau’r 20fed ganrif.

Yn ogystal â’r nodweddion hyn, mae lle i storio propiau, parcio ceir, ystafelloedd newid i griwiau a cheginau proffesiynol yn y lleoliadau.

Lleoliadau gweithredu

Ydych chi’n ffilmio neu lwyfannu perfformiad ger un o’n lleoliadau? Mae llawer o’n lleoliadau’n ddigon mawr ar gyfer ffilmio ac ar gyfer cefnogi’ch gweithgareddau, gan gynnwys darparu lle i lawer o gerbydau mawr.

Mae’n llefydd storio mawr a’n llefydd parcio’n gwneud ein lleoliadau’n addas ar gyfer pob agwedd ar eich gweithgareddau, yn logistaidd a gweithredol.

Ffilmio a sesiynau ffotograffiaeth

Sub heading: Ffilmio a sesiynau ffotograffiaeth

Mae’r mathau amrywiol o leoliadau sydd ar gael yn cynnwys:

  • Llyfrgelloedd
  • Hen gestyll
  • Barics o’r 19eg ganrif, yn fewnol ac allanol
  • Sgwariau parêd
  • Bariau, ceginau a neuaddau bwyta
  • Campfeydd a chyfleusterau ffitrwydd
  • Swyddfeydd
  • Grisiau a chynteddau drwy’r oesoedd
  • Meysydd tanio dan do ac awyr agored
  • Meysydd chwarae
  • Adeiladau barics segur
  • Neuaddau sy’n edrych fel carchardai.

Mae llawer o’r lleoliadau mewn ardaloedd hardd sy’n arddangos tirweddau trawiadol Cymru, fel:

  • Bannau Brycheiniog
  • Y Mynyddoedd Duon
  • Afonydd Hafren, Wysg a’r Gwy
  • Dyffrynnoedd y Canolbarth
  • Lleoliadau arfordirol yn Aberystwyth, Caernarfon, Caerdydd, Queensferry, Y Mwmbwls – Abertawe

Mae’r safleoedd a’u lleoliadau’n llefydd ffilmio addas ar gyfer: ffilmiau, drama teledu, hysbysebion, fideos cerddoriaeth a sesiynau tynnu lluniau.

764--!!